Mae RCBC Cymru (Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru) yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac yn gydweithrediad rhwng adrannau nyrsio a iechyd perthynol chwe phrifysgol yng Nghymru.
Fel deilydd grant RCBCCymru mae'n fraint gen i arwain y fenter gyffrous hon. Nod ein cydweithrediad llwyddiannus iawn yw cynyddu gallu ymchwil mewn nyrsio, bydwreigiaeth, y proffesiynau iechyd perthynol a fferyllwyr ledled Cymru. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau, gan gynnwys 'First into Research', PhDs a Chymrodoriaethau Ôl-Ddoethurol.
Mae ein cymrodyr yn ymuno â'n Cymuned o Ysgolheigion (CoS), sy'n rhan annatod o CBCymru. Rydym yn gweithio mewn amgylchedd colegol i feithrin meithrin gallu ac ymdeimlad o ddysgu cyfunol ac ymgysylltu â'r gymuned trwy fentoriaeth, dosbarthiadau meistr ac arweinyddiaeth ymchwil. Mae CoS yn dwyn ynghyd ystod o weithwyr iechyd proffesiynol ar wahanol gamau gyrfa ac mae'n parhau i gael eu gwerthfawrogi'n fawr gan yr holl ysgolheigion.
Mae RCBCymru wedi dyfarnu 132 o gymrodoriaethau hyd yma ac rydym yn hynod falch o'n cymrodyr a'u cyflawniadau.
Dr Gina Dolan
Deon Cyswllt - Ymchwil ac Arloesi
Gweinyddwr Grant RCBCCymru
Prifysgol De Cymru