Nod Ysgol Nyrsio, Bydwreigiaeth ac Astudiaethau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor ydy bod yn sefydliad gofalgar a dysg sy’n gwerthfawrogi pobl fel unigolion a bydd yn sefydlu a chynnal safonau ansawdd a rhagoriaeth ym mhrosesau addysgu a dysgu; mewn dulliau ac adnoddau; yn nilyniant ac wrth asesu myfyrwyr; yng nghaffaeliad sgiliau clinigol myfyrwyr; yn natblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer staff a myfyrwyr ac mewn gweithgaredd ymchwil perthnasol i iechyd.
Mae Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cynnig portffolio eang o gyrsiau mewn Deieteg, Podiatreg a Therapi Lleferydd a Iaith. Mae’r Ysgol yn weithredol ym maes ymchwil gan gynnig amgylchedd bywiog i wneud ymchwil ym maes iechyd.
Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn cwmpasu naw maes gofal iechyd: Radiograffeg Ddiagnostig a Delweddu Diagnostig; Radiotherapi ac Oncoleg; Ymarfer Mewndriniaethol ac Amdriniaethol; Darluniad Meddygol; Bydwreigiaeth; Nyrsio; Therapi Galwedigaethol; Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau a Ffisiotherapi. Mae’r ysgol yn dod ag arferion gorau sefydledig ym mhrofiadau myfyrwyr a’r safonau academaidd gorau at ei gilydd ac yn cynnig ystod eang o labordai clinigol heb eu hail, canolfannau ymchwil a chyfleusterau addysgu, ac yn defnyddio technoleg sydd ar flaen y gad.
Nod y ganolfan hon ydy datblygu ymchwil iechyd a chynorthwyo gweithgareddau ar gyfer holl staff maes pwnc Iechyd. Mae wedi sefydlu sylfaen ymchwil sylweddol ar gyfer addysgu, dysgu ac ymarfer ym maes iechyd a’r proffesiynau gofal. Mae’r Ganolfan yn gweithio’n agos gydag ymddiriedolaethau lleol y GIG a Byrddau Iechyd Lleol, Adrannau’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Awdurdodau Addysg Lleol.
Mae’r Coleg yn tynnu disgyblaethau iechyd, nyrsio, bydwreigiaeth, gofal cymdeithasol, polisi cymdeithasol a seicoleg at ei gilydd a’r Coleg ydy darparwr addysg gofal iechyd mwyaf yng Nghymru, yn cynnig amgylchedd cyffrous a deinamig i astudio ynddo ac i ddatblygu gyrfa academaidd neu broffesiynol ymhellach.
Mae Cyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg, Prifysgol De Cymru, wedi ymrwymo i sicrhau bod ymchwil wrth wraidd yr amgylchedd academaidd; yn werthfawr yn ei rhinwedd ei hun ac hefyd yn cael ei werthfawrogi am y cyfoeth y mae’n ei gynnig i addysg ac ymarfer proffesiynol. Mae ymchwil cymhwysol ac astudiaethau o oblygiadau ymchwil hefyd yn feysydd pwysig ac mae gan y Gyfadran gysylltiad agos gyda gwneuthurwyr polisi ym maes iechyd, gwyddoniaeth ac addysg.
Aneurin Bevan University Health Board
Betsi Cadwaladr University Health Board Cardiff and Vale University Health Board
Cwm Taf Morgannwg University Health Board
Swansea Bay University Health Board
Tenovus Gofal Canser