GALWAD AR GAU
Mae gan RCBC Cymru (Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil) Chymrodoriaeth 'Newydd i Ymchwil' (FiR) i’w cynnig i gychwyn ar y 1 EBRILL 2024.
Mae Cymrodoriaeth yn agored i bawb ac ar gael i i bob proffesiwn cymwys yn RBCBCymru. Rhaid i'r ymgeiswyr fod yn gofrestredig yn y DU fel Nyrs, Bydwraig, Fferyllydd neu Weithiwr Proffesiynol Iechyd Cysylltiol (h.y. rhaid eu bod wedi’u cofrestru gyda’r the NMC, HCPC neu GPhC ar gychwyn eu hastudiaeth). Daw’r diffiniad o Broffesiynau Iechyd Cysylltiol o Gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd (gweler: https://www.hcpc-uk.org/about-us/who-we-regulate/the-professions/). Gallai gwyddonwyr biofeddygol a chlinigol fod wedi’u cofrestru gyda’r HCPC neu wedi’u cofrestru drwy drefniadau rheoleiddiol gwirfoddol cydnabyddedig drwy Academi Gwyddorau Gofal Iechyd. Sylwer nad oes gan RCBCCymru y cyllid i ystyried gweithwyr proffesiynol tu allan i’r grwpiau gweithwyr proffesiynol gofal iechyd hyn.
Mae’n bleser gan RCBC (Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil) Cymru (http://www.rcbcwales.org.uk) gyhoeddi bod cyllid ar gael ar gyfer Cymrodoriaethau 'Newydd i Ymchwil' mewn Fferylliaeth wedi eu hariannu gan 'Pharmacy Research UK' ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth) i gychwyn ar EBRILL 1af 2024.
Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gofrestredig yn y DU fel Fferyllydd (a rhaid eu bod wedi cofrestru gyda’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol - GPhC - ar gychwyn yr astudiaeth).
Mae Cymrodoriaethau Newydd i Ymchwil (FiR) ar gyfer astudiaeth ran-amser am 12 mis ar sail un diwrnod yr wythnos. Bydd pob dyfarniad werth £12,468.54. O'r swm hwn, bydd £7,577.03 yn daladwy i’r sefydliad sy’n cyflogi fel cyfraniad at ryddhau cymrodyr am ddiwrnod yr wythnos, £3,974.69 tuag at gostau goruchwyliaeth a hyfforddiant yn y Sefydliad Addysg Uwch sy’n lletya, hyd at £541.22 tuag at gostau ymchwil a hyd at £375.60 ar gyfer costau teithio i fynychu dyddiau astudio Cymuned yr Ysgolorion (gweler y ddogfen pdf 'Gwybodaeth Bellach')
Cyfraniad ydy’r cyllid sydd ar gael i gyflogwyr tuag at ryddhau Cymrodyr am y diwrnod (1 diwrnod yr wythnos am 12 mis ynghyd â dyddiau astudio Cymuned yr Ysgolorion) ac fe’ch cynghorir i drafod unrhyw wahaniaeth rhwng eich cyflog a chyllid RBCBCymru a ddosrennir i gyflogwyr gyda’ch cyflogwr.
Hysbysir ymgeiswyr sydd, ar hyn o bryd yn gweithio rhan amser na all RCBCCymru dalu Cymrodyr Newydd i Ymchwil (FIR) yn uniongyrchol ac y dylen nhw drafod opsiynau tâl gyda’u cyflogwr am y cynnydd yn eu horiau allai fod o ganlyniad i dderbyn Cymrodoriaeth.
Y Broses o Wneud Cais Dedlein/Dyddiadau allweddol
Cam 1 Cysylltu ag Arweinydd Gweithredol yn eich dewis cyntaf o brifysgol er mwyn trafod eich darpar gais ac i bennu ac enwi goruchwylydd Yn syth a chyn cyflwyno eich ffurflenni gwirio cymhwystra
Cam 2 Ffurflenni gwirio cymhwystra i’w cwblhau a’u dychwelyd at: marina.mcdonald@southwales.ac.uk 23.59 AR 5 IONAWR 2024
Cam 3 Er mwyn cynorthwyo i fireinio eu syniadau, gwahoddir ymgeiswyr cymwys i gymryd rhan mewn gweminar gydag arbenigwyr mewn dylunio ymchwil, dulliau ansoddol a meintiol, cynnwys cleifion, moeseg, a pholisi iechyd a gwella gwasanaethau. Byddan nhw hefyd yn ystyried manteisio i’r eithaf ar effaith a rheoli eu prosiect Cynhelir y gweminar ar WYTHNOS YN CYCHWYN 8 IONAWR 2024
Cam 4 Yn dilyn y weminar gwahoddir ymgeiswyr cymwys i gyflwyno ffurflen gais gyda chynnig llawn 9 CHWEFROR 2024
Cam 5 Ar ôl llunio rhestr fer o geisiadau o’r cynigion llawn, dewisir drwy gyfweliad. Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn cychwyn WYTHNOS YN CYCHWYN 26 CHWEFROR 2024
Cam 6 Bydd y Cymrodoriaethau yn cychwyn 1 EBRILL 2024
Meini Prawf Cymhwystra
Ceisiadau
Cofiwch ganiatáu digon o amser i dderbyn datganiad gan eich darpar oruchwylydd (dewis cyntaf) a chadarnhad bod gennych gefnogaeth y sefydliad addysg uwch sy’n lletya (SAU) a’ch cyflogwr. Ystyriwch gynnwys eich dewisiadau eraill o sefydliadau yn eich cais. Gweler yr hysbyseb a Gwybodaeth Bellach i gael manylion cyswllt RCBCCymru ymhob un o’r y prifysgolion sy’n cymryd rhan: Prifysgolion Bangor, Caerdydd, Metropolitan Caerdydd, Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol De Cymru.
Delir ag ymholiadau cyffredinol gan Marina McDonald, RCBCCymru, Prifysgol De Cymru. E-bost: marina.mcdonald@southwales.ac.uk
Sylwer bod Cymrodoriaethau RCBCCymru yn cael eu cynnig ar sail y gallai’r ffioedd newid ac yn amodol ar y drefn gymorth berthnasol i fyfyrwyr yng Nghymru.
Yn gyntaf i mewn i Hysbyseb Ymchwil - Fferyllfa wedi'i neilltuo cyllid
Ffurflen Gais Cynnig Llawn RCBCCYmru
DYDDIAD CAU: 9 CHWEFROR 2024
Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth