Mae rhagor o fanylion ar gael yn fuan!Bydd RCBC Cymru yn ariannu Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol hanner amser am 2 flynedd.
Isod, amlinellir y costau sydd ar gael. Cyfanswm pob Cymrodoriaeth fydd hyd at £70,619.
Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol, hanner amser am 2 flynedd, yn cychwyn ym mlwyddyn ariannol 2021
Costau SAU sy’n lletya £7566
*Cyflog yn cynnwys argostau £59,838
Costau Ymchwil Hyd at £2,500
Teithio i Gymuned yr Ysgolorion Hyd at £715
Cyfanswm £70,619
*Cynghorir chi i drafod unrhyw wahaniaeth rhwng eich cyflog ac arian RCBCCymru gyda’ch cyflogwr.
Bydd y broses o wneud cais yn cynnwys y canlynol:
Cam 1. Cysylltu ag Arweinydd Gweithredol yn eich dewis cyntaf o brifysgol er mwyn trafod eich darpar gais ac i enwi goruchwylydd
Cam 2.
Ffurflenni gwirio cymhwystra i’w cwblhau a’u dychwelyd at marina.mcdonald@southwales.ac.uk unrhyw adeg hyd at
13 Tachwedd 2020. Hysbysir ymgeiswyr o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn y ffurflenni gwirio a ydyn nhw wedi diwallu’r meini prawf.
Cam 3.
Gofynnir i ymgeiswyr cymwys gyflwyno ffurflen gais o’u cynnig llawn erbyn
18 Rhagfyr 2020.
Cam 4.
Llunnir rhestr fer o geisiadau cynnig llawn gan Grŵp Gweithredol RCBCCymru. Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu cyfweliad a bydd cynigion yn amodol ar adolygiad annibynnol. Caiff ymgeiswyr ar y rhestr fer adborth gan adolygwyr allanol i gynnig ymateb mewn cyfweliad.
Cam 5.
Cynhelir y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn cychwyn
8 Chwefror 2021.
Cam 6.
Bydd y Cymrodoriaethau yn cychwyn
1 Ebrill 2021
Meini Prawf Cymhwystra
• Rhaid bod ymgeiswyr wedi cofrestru yn y DU fel Nyrs, Bydwraig, Fferyllydd neu Weithwyr Proffesiynol Iechyd perthynol (h.y. Rhaid eu bod wedi’u cofrestru gyda’r NMC, HCPC neu’r GPC pan fyddan nhw’n cychwyn yr astudiaeth). Gallai gwyddonwyr biofeddygol a chlinigol fod wedi cofrestru gyda’r HCPC neu wedi’u cofrestru drwy drefniadau rheoliadol gwirfoddol drwy Academi Gwyddorau Gofal Iechyd. Ceir diffiniad o Swyddi Iechyd Perthynol yng Nghofrestr Cyngor Proffesiynau Iechyd (https://www.hcpc-uk.org/about-us/who-we-regulate/the-professions ac yn cynnwys tua 15 o broffesiynau iechyd a 33 o deitlau a amddiffynnir. Sylwer nad oes gan RCBC Cymru y capasiti cyllido i ystyried gweithwyr proffesiynol o'r tu allan i’r grwpiau hyn o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
• Mae angen i ymgeiswyr feddu ar PhD a ddyfarnwyd gan Brifysgol neu sefydliad a gydnabyddir gan y 6 Sefydliad Addysg Uwch sy’n ymwneud â RCBCCymru fel arfer o fewn y 5 mlynedd diwethaf .
• Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus breswylio yng Nghymru drwy gydol cyfnod y dyfarniad.
• Sylwer nad yw RCBCCymru yn gorff sy’n cyflogi a rhaid i bob Cymrodor fod mewn cyflogaeth yng Nghymru er mwyn cael Cymrodoriaeth
Ceisiadau
Sicrhewch ddigon o amser er mwyn i chi dderbyn y datganiad gan eich darpar (dewis cyntaf) oruchwylydd a chadarnhad o gymorth gan y sefydliad addysg uwch (SAU). Mae chwe SAU yn ffurfio’r cydweithrediad hwn ac ni all un SAU benodi mwy nag un Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol, felly ystyriwch gynnwys eich dewis o sefydliadau eraill yn eich cais. Am ragor o wybodaeth , gweler y 'pdf manylion pellach' am fanylion cyswllt RCBCCymru ymhob un o’r prifysgolion sy’n cymryd rhan: Prifysgolion Bangor, Caerdydd, Metropolitan Caerdydd, Glyndŵr, Abertawe a Phrifysgol De Cymru.
Gellir anfon ymholiadau cyffredinol at Marina McDonald, RCBCCymru, Prifysgol De Cymru. E-bost: marina.mcdonald@southwales.ac.uk
Sylwer bod Cymrodoriaethau RCBCCymru yn cael eu cynnig ar y sail y gellir eu newid os digwydd newidiadau i’r ffi a threfn y cymorth i fyfyrwyr sy’n berthnasol i Gymru.